Datblygu Economaidd - Rheolwr Trafnidiaeth - OM2 - £44,744 - £54,049 - Cyf. ET5025346006 June 2018

Dyma gyfle gwych i Reolwr Trafnidiaeth profiadol i arwain a datblygu ei weithrediadau fflyd o’i gyfleuster ‘o’r radd flaenaf’ newydd adeiledig ar Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd.

Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cadw fflyd o dua 800 o gerbydau o geir a faniau bach i gerbydau nwyddau trwm ar ffurf Tipwyr, Gwelyau Gwastad, Luton’s, Platfformau Mynediad, Cerbydau Taenu Grut, Gullies, Craeniau, Llwythwyr Bachyn a Cherbydau Sbwriel o hyd at 32 o dunnelli GVW. Nod y Cyngor yw tyfu ei wasanaeth cynnal a chadw fflyd drwy ddarparu gwasanaethau ar gyfer sefydliadau a phartneriaethau allanol.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus:

• Yn rheoli gweithrediadau trafnidiaeth y Cyngor yn barhaus er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion Trwyddedau Gweithredwyr Cyngor;

• Yn gyfrifol am reoli datrysiadau trafnidiaeth cynaliadwy yn nhermau amgylcheddol sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol (e.e. ysgolion, partneriaid cyngor);

• Yn cynrychioli’r Cyngor ac yn rhoi arbenigedd, cyfeiriad a chyngor strategol a phroffesiynol ar gyfer aelodau etholedig ac uwch staff rheoli ar ddarparu gwasanaeth fflyd trafnidiaeth cynhwysfawr a gwasanaeth rheoli fflyd, a

• Datblygu cyfleoedd busnes masnachol newydd ar gyfer Gwasanaeth Trafnidiaeth Canolog y Cyngor.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus, yn arbennig:

• Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynpl mewn Trafnidiaeth Ffordd (CPC);

• Profiad o ymgymryd â rôl Rheolwr Trafnidiaeth ar gyfer sefydliad gyda fflyd mawr ac amrywiol;

• Profiad o ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol i annog parch, ymddiriedaeth a hyder;

• Profiad o reoli a monitro perfformiad yn effeithiol a gosod amcanion clir i adolygu perfformiad unigol ac ar lefel gwasanaeth;

• Gallu arwain yn weledol ac yn gefnogol sy’n grymuso, sy’n galluogi ac sy’n datblygu staff i gyflawni canlyniadau;

• Cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol effeithiol gyda phob lefel o gyflogai gan gynnwys rheoli ac asiantaethau awyr agored, a

• ymrwymiad cadarn i ragoriaeth o ran darparu gwasanaethau a boddhad cwsmeriaid.

Rhaid i chi allu gweithredu ar lefel strategol a gweithredol, ymateb i anghenion newidiol y gwasanaeth, dangos y gallu i ddatrys problemau a bod yn ymrwymedig i ddiwallu anghenion cwsmeriaid.

Mae’r swydd hon yn destun apwyntiad iechyd galwedigaethol hanfodol.

Mae’r Cyngor yn cynnig pecyn buddion deniadol gan gynnwys 27 o ddiwrnodau o wyliau blynyddol (sy’n codi i 32 o ddiwrnodau ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus) a chynllun pensiwn cyflog cyfartalog.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Lowe (Gweithrediadau OM) 029 2087646.

Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 19 Mehefin 2018

For more information and to apply please visit https://jobs.cardiff.gov.uk/mobile/JobDetails.aspx...

Author
Cardiff Council

Related Websites
https://jobs.cardiff.gov.uk/mobile/JobDetails.aspx/8806/Transport_Manager

Related Companies
Cardiff Council

This material is protected by MA Business copyright
See Terms and Conditions.
One-off usage is permitted but bulk copying is not.
For multiple copies contact the sales team.