Jobs

Rheolwr Gweithrediadau Trafnidiaeth

People
Cyf. RS50220293 Graddfa 10 £37,483 - £40,217

Mae cyfle wedi codi yn y Gwasanaethau Trafnidiaeth Ganolog ar gyfer Rheolwr Gweithrediadau Trafnidiaeth proffesiynol a brwdfrydig. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:

- Rheoli gweithrediad a gwaith cynnal a chadw ar holl gerbydau a pheiriannau'r Cyngor yn unol â gofynion y Cyngor a gofynion statudol

- Rheoli'r broses o gyflawni busnes, pennu cyfeiriad strategol, caffael adnoddau a rheoli cyllideb gwasanaeth trafnidiaeth fflyd effeithiol yn unol â thargedau'r cynllun busnes a chyfarwyddebau strategol

- Cydymffurfio â'r holl rwymedigaethau deddfwriaethol gofynnol dan ddeddfwriaeth Trwydded Gweithredwr a pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor

- Rheoli Contractau ar gyfer darparu fflyd gan weithio gyda phartneriaid allanol.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad o weithio ym maes gweithredu fflyd a rhaid meddu ar Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol mewn Gweithrediadau Cludo Nwyddau Cenedlaethol.

Rhaid i chi allu gweithredu ar lefel strategol a gweithredol, ymateb i anghenion newidiol y gwasanaethau, dangos y gallu i ddatrys problemau a bod yn ymrwymedig i ddiwallu anghenion cwsmeriaid.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lesley Ironfield (Rheolwr Gweithredol Rheoli Gyfleusterau) ar 02920 872050.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg.

Mae'r swydd yn amodol ar becyn gweithlu sy'n golygu y caiff yr oriau llawn amser eu lleihau gan un awr yr wythnos (pro-rata ar gyfer swyddi rhan amser) ar gyfer 2014/15. Disgwylir i'r trefniant hwn ddod i ben ar 31 Mawrth 2015.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 6 Mawrth 2015

Ymgeisio: https://jobs.cardiff.gov.uk/

Related content